Bydd CLWB HWYL HWYR yn ail ddechrau yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar Nos Wener 17 Medi am 5.30.
Clwb Ieuenctid Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr.
Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, rhwng 5.30 a 6.30pm. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb.
’Does dim tâl aelodaeth, ond gwneir casgliad wythnosol – awgrymir 50c. – tuag at gronfa’r Clwb
Mae gennym dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i bawb ymuno a ni.
No comments:
Post a Comment