Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Tuesday 21 December 2010

PARTION NADOLIG

Nos Wener 4ydd Rhagfyr cafodd aelodau Ysgol uwchradd Clwb Hwyl Hwyr eu parti Nadolig.
Parti pyjamas oedd hwn gyda bwyd o Caffi Celias. Roedd y bobl ifanc wedi dewis o Chow Bocs “sweet and sour” neu “ribs”.
Roedd yn rhaid bwyta gyda chop sticks a cafwyd noson arbennig. Wedi’r bwyta roedd cyfle i chwarae gemau “twister”, taflu pel i mewn i fwcedi a shove ha’penny.

Ar y nos Wener canlynol cynhlaiwyd Parti Nadolig yr aelodau Ysgol Cynradd. Y tro hwn selsig a sglodion oedd y bwyd.
Cafodd pawb arian ffug i gyfnewid am eu anhrhegion Nadolig. Yna chwaraewyd ychydig o gemau. Eto roedd yn noson llwyddiannus dros ben.

Clwb Cristnogol llawn hwyl yw Clwb Hwyl hwyr. Mae’r aelodau cynradd yn cwrdd yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, rhwng 5.30 a 6.30pm. Ac mae’r aelodau Uwchradd yn cyfarfod yn Fisol am 7.00pm.
Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb. Mae’r clwb hefyd yn cymryd rhan yn flynyddol mewn cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd yr Ysgolion Sul, a chystadleuaeth mabolgampau dan do.

Bydd y clwb yn ail ddechrau ar Nos Wener 14 Ionawr ar gyfer yr aelodau Cynradd ac ar 4 Chwefror ar gyfer yr aelodau Uwchradd.

Tuesday 7 December 2010

PARTI NADOLIG

Cynhaliwyd Parti Nadolig Clwb Hwyl Hwyr Uwchradd, Nos Wener 3ydd Rhagfyr.
Parti Pyjamas oedd gennym ac yna cawsom Chow Box yr un.
Noson llawn hwyl yn trio bwyta gyda Chop Sticks ac yna chwarae Twister ac ati.

Wythnos nesaf bydd parti'r Clwb Cynradd. Croeso cynnes i bawb.

Saturday 25 September 2010

Clwb Hwyl hwyr yn ail ddechrau - Tymor Nadolig 2010

Mae Clwb Hwyl Hwyr wedi ail ddedchrau wedi seibiant dros yr haf. Ar Nos Wener, 24 Medi daeth Mr Nigel Davies, Swyddog Menter Ieuenctid Cristnogol (Mic) Sir Gaerfyrddin. Daeth criw da ynghyd i Neuadd Gellimanwydd i fwynhau’r noson.
Dechreuodd Mr Davies drwy adrodd hanes Gideon drwy gyfrwng Powerpoint a DVD. Yna chwaraewyd nifer o gemau cyffrous a gorffen drwy rannu poop a crisps. Roedd yn noson hwylus dros ben.
Clwb Cristnogol Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr ac rydym yn cwrdd yn Neuadd Gellimanwydd bob Nos Wener yn ystod tymor yr ysgol.


Eleni hefyd rydym yn rhedeg Clwb yn arbennig ar gyfer plant ysgol uwchradd blynyddoedd 7-9 ar y Nos Wener cyntaf y mis. Y noson gyntaf oedd ar 1 Hydref pan cawsom Barti Pizza!

Friday 10 September 2010

TYMOR Y NADOLIG 2010

Bydd CLWB HWYL HWYR yn ail ddechrau yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar Nos Wener 17 Medi am 5.30.

Clwb Ieuenctid Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr.

Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, rhwng 5.30 a 6.30pm. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb.

’Does dim tâl aelodaeth, ond gwneir casgliad wythnosol – awgrymir 50c. – tuag at gronfa’r Clwb

Mae gennym dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i bawb ymuno a ni.  


Sunday 11 July 2010

TYMOR NEWYDD

Mae'r tymor wedi dod i ben a byddwn yn ail ddechrau ym Mis Medi.
Edrych ymlaen i'ch gweld adeg hynny.

hwyl a joiwch yr haf.

Monday 19 April 2010

CHWARAEON MENTER IEUENCTID CRISTNOGOL

Llongyfarchiadau i aelodau Clwb hwyl hwyr ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuthau Chwaraeon Menter Ieuenctid Cristonogol Sir Gar.
Daeth y tim Pelrwyd cyrnadd yn gyntaf a hefyd y tim Pelrwys Uwchradd.

da iawn chi .

Bu gwyliau’r Pasg yn gyfnod prysur i nifer o blant ac ieuenctid Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin wrth iddynt gymryd rhan mewn cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd o dan drefniant M.I.C. Cynhaliwyd y cystadlaethau yn rhanbarthol yng Nghastell Newydd Emlyn a Rhydaman gyda’r rowndiau terfynol yn cymryd lle yng Nghaerfyrddin.

Rhannwyd y timoedd i grwpiau gan sicrhau bod pob tîm yn cael chwarae o leiaf dwy gêm yr un. Daeth tyrfaoedd da i gefnogi’r fenter a chafwyd cystadlu brwd ymysg y timoedd gyda phawb yn rhoi o’u gorau. Gwych oedd gweld y cyffro a’r llawenydd ar wynebau’r chwaraewyr a’u cefnogwyr wrth i bawb fwynhau “mas draw.” Diwrnodau penigamp felly i bawb, ac i’r sawl wnaeth ennill, wel roedd hynny yn fonws.


Roedd y canlyniadau fel a ganlyn:
Rowndiau Terfynol Y Sir - Yn y rowndiau terfynol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin dyma oedd y canlyniadau:


Pêl Rwyd Cynradd: 1af – Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman.


Pêl Rwyd Uwchradd: 1af – Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman.


Llongyfarchiadau mawr i'r timoedd uchod ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu tuag at dri diwrnod llwyddiannus iawn i Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin.

Saturday 3 April 2010

DIWEDD TYMOR

Mae blwyddyn arall yn hanes y Clwb newydd ddod i ben.
Byddwn yn ail ddechrau yn y flwyddyn addysgol newydd, sef Mis Medi.
Hoffai Swyddogion Clwb Hwyl Hwyr ddymuno'n dda i'r holl aelodau dros yr haf ac edrychwn ymlaen i'ch gweld eto Mis Medi.

hwyl
Edwyn a'r criw

Monday 8 March 2010

PYTHEFNOS MASNACH DEG

Roedd aelodau'r clwb yn cymryd rhan y y Banana Split enfawr yn yr Arcade, Rhydaman ar Nos Wener 5 Mawrth. Rhan o ddigwyddiadau Pythefnos Masnach Deg oedd hon. Dyma'r ail waith i ni adeiladu Banana Split enfawr ar hyd yr arcade ac roedd un eleni yr un mor fawr a llynedd.
Yn gyntaf roedd angen torri'r bananas a'u gosod ar y cafn, wedyn ychwanegu'r hufen ia, yr hufen a'r saws siocled - wedi hyn roedd pawb yn gafael mewn llwy a bwyta!!
Pa well ffordd i ddathlu Pythefnos Masnach Deg ac ar yr un pryd codi ymwybyddiaeth am nwyddau sy'n rhoi cyfle teilwng i'r ffermwyr a'r masnachwyr.


Monday 18 January 2010

TYMOR Y GWANWYN

Mae'r Clwb wedi ail ddechrau ar ol y tywydd garw.


Dewch draw i neuadd Gellimawydd ar Nos Wener am 5.30 i gael hwyl.