Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Tuesday 21 December 2010

PARTION NADOLIG

Nos Wener 4ydd Rhagfyr cafodd aelodau Ysgol uwchradd Clwb Hwyl Hwyr eu parti Nadolig.
Parti pyjamas oedd hwn gyda bwyd o Caffi Celias. Roedd y bobl ifanc wedi dewis o Chow Bocs “sweet and sour” neu “ribs”.
Roedd yn rhaid bwyta gyda chop sticks a cafwyd noson arbennig. Wedi’r bwyta roedd cyfle i chwarae gemau “twister”, taflu pel i mewn i fwcedi a shove ha’penny.

Ar y nos Wener canlynol cynhlaiwyd Parti Nadolig yr aelodau Ysgol Cynradd. Y tro hwn selsig a sglodion oedd y bwyd.
Cafodd pawb arian ffug i gyfnewid am eu anhrhegion Nadolig. Yna chwaraewyd ychydig o gemau. Eto roedd yn noson llwyddiannus dros ben.

Clwb Cristnogol llawn hwyl yw Clwb Hwyl hwyr. Mae’r aelodau cynradd yn cwrdd yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, rhwng 5.30 a 6.30pm. Ac mae’r aelodau Uwchradd yn cyfarfod yn Fisol am 7.00pm.
Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb. Mae’r clwb hefyd yn cymryd rhan yn flynyddol mewn cystadlaethau pĂȘl droed a phĂȘl rwyd yr Ysgolion Sul, a chystadleuaeth mabolgampau dan do.

Bydd y clwb yn ail ddechrau ar Nos Wener 14 Ionawr ar gyfer yr aelodau Cynradd ac ar 4 Chwefror ar gyfer yr aelodau Uwchradd.

Tuesday 7 December 2010

PARTI NADOLIG

Cynhaliwyd Parti Nadolig Clwb Hwyl Hwyr Uwchradd, Nos Wener 3ydd Rhagfyr.
Parti Pyjamas oedd gennym ac yna cawsom Chow Box yr un.
Noson llawn hwyl yn trio bwyta gyda Chop Sticks ac yna chwarae Twister ac ati.

Wythnos nesaf bydd parti'r Clwb Cynradd. Croeso cynnes i bawb.