Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Tuesday 15 December 2009

TYMOR Y GWANWYN

Mae'r clwb wedi gorffen am y tymor. Byddwn yn ail ddechrau ar Nos Wener 8 Ionawr 2010 yn Neuadd Gellimanwydd am 5.30.
Croeso cynnes i bawb.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA
I HOLL AELODAU A FFRINDIAU
CLWB HWYL HWYR

Thursday 10 December 2009

PARTI NADOLIG

Mae Parti Nadolig Clwb Hwyl Hwyr ar Nos Wener, 11 Rhagfyr yn Neuadd Gellimanwydd.
Bydd pawb yn cael hwyl arbennig drwy chwarae gemau, prynu anrhegion (bydd pob plentyn yn cael gwerth 40 pwynt i wario ar wahanol bethau) a bwyd blasus.
Felly cofiwch ddod draw i ymuno yn y dathlu.

Tuesday 1 December 2009

Cwis Beiblaidd

Ym mis Medi eleni ffurfiwyd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) mewn ymateb i ddymuniad gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin am gefnogaeth i ddatblygu gwaith ymhlith plant ac ieuenctid. Prif nod y Fenter newydd yw hybu tystiolaeth yr efengyl ymysg yr ifanc a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes.

Yn ddiweddar, trefnwyd cwis Beiblaidd ar gyfer plant ac ieuenctid sir Gaerfyrddin gyda rowndiau rhagbrofol yn arwain fyny at rownd derfynol. Mewn cyfnod pan fod gwybodaeth Feiblaidd yn rhinwedd prin yn ein cymdeithas, mor wych oedd hi i weld plant a phobl ifanc ar draws yr ystod oedran o 6 i 17 oed yn cymryd rhan gyda brwdfrydedd. Defnyddiwyd yr offer diweddara gan gynnwys PowerPoint, bysyrs electronig a meicroffonau gan roi delwedd broffesiynol a chyfoes i’r achlysur.

Yn y rownd derfynol trefnwyd y cwis ar ffurf y rhaglen deledu boblogaidd, “Who Wants To Be A Millionaire?” Cafwyd cystadleuaeth ddifyr a hynod o gyffrous, heb sôn am y tensiwn, wrth i rai timoedd gyrraedd lefel uchel ac wrth i’r ffôn symudol gael ei ddefnyddio i ymgynghori gyda nifer i ffrind.

Y Rownd Derfynol
Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed cynradd oedd:
Providence, Llangadog (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Plant Y Brenin, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Ysgol Sul Hermon (Gorllewin sir Gâr)

Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed uwchradd oedd:
Calfaria, Penygroes (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Penuel, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Y Babell, Pensarn (Gorllewin sir Gâr)

Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant a’r bobl ifanc wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw. Daeth Tîm Uwchradd Clwb hwyl hwyr yn ail yn y rownd derfynol.