Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Friday 24 October 2008

Noson Grefftau







Nos Wener 24 Hydref daeth criw Clwb Hwyl Hwyr i Neuadd Gellimanwydd ar gyfer noson grefftau. Cawsom hwyl arbennig yn creu ci cardfwrdd, dafad yn nodi ei ben, tylluan allan o 4 calon a gemau papur.
Edwyn oedd yn gyfrifol am y noson gyda Hanna Wyn, a'r Parchg Emyr Wyn Evans yn ei gynorthwyo.
Ni fydd clwb wythnos nesa oherwydd hanner tymor ond edrychwn ymlaen i'r wythnos ganlynol i ail gydio yn yr hwyl a hynny trwy ddysgu am fywyd, a chyfle i addoli, Iesu.

Monday 13 October 2008

Clwb Mis Hydref

Mae'r clwb yn mynd o nerth i nert. Braf yw gweld cymaint o blant yn dod draw i'r Neuadd ar nos Wener. Wythnois diwethaf roedd Catrin yn rhoi hanes "Y Pechod Cyntaf" i ni. Yna cawsom hwyl arbennig yn chwarae gemau.
Nos Wener diwethaf cawsom "Hanes Noa" gan Graham. Wedyn roedden ni i gyd yn chwarae gemau a ceisio sgorio drwy gael y balwn i fewn i'r gol.

Mae tua 20 ohonom yn dod i'r neuadd - beth am ymuno yn yr hwyl.

Saturday 20 September 2008

Noson Gyntaf

Nos Wener, Medi 19 daeth 20 o blant i Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman ar gyfer noson gyntaf Clwb hwyl hwyr.
Yn gyntaf cawsom stori - Y Creu - gan Edwyn. Yna rhanwyd pawb i dri tim - "lightening", tigers a zebras" a "bananas pinc" i chwarae gemau.
Roedd yn noson hynod hwylus gyda pawb wedi mwynhau yn fawr. hwyl arbennig oedd rhedeg i nol y peli bach a dod a nhw yn ol i'r pen i weld pwy oedd wedi casglu fwyaf.

Dewch yn llu i'r noson nesaf Nos Wener, Medi 26, yn Neuadd Gellimanwydd am 5.30 - 6.30

Saturday 13 September 2008

Y LANSIAD

Nos Wener, 12 Medi oedd noson lansiad Clwb Hwyl Hwyr yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman. Braf oedd gweld cymaint o blant a rhieni yn bresennol. Cawsom gwmni Rosfa y consuriwr, sef y Parchg Eirian Wyn.

Roedd Rosfa ar ei orau yn dangos i'r plant mawr a bach wahanol driciau hud a lledrith, ac yn ogystal roedd yn defnyddio nifer o'r plant i'w gynorthwyo. Roedd angen gair hud arbennig i wneud i'r "magic" weithio -Y gair hud oedd inky winki Pww!

Diolch i bawb am wneud y noson yn llwyddiant ysgubol.


Clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 yw Clwb Hwyl Hwyr, sydd wedi ei drefnu gan Gapeli tref Rhydaman dan arweiniad Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin.

Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r plant yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gemau, stori, crefft, cystadlaethau ayyb. ’Does dim tâl aelodaeth, ond gwneir casgliad wythnosol – awgrymir 50c. – tuag at gronfa’r Clwb

Mae gennym dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a phrofiadol yn gofalu am y plant ac mae yna groeso cynnes i bawb ymuno â ni. Mewn cyfnod sy’n llawn o beryglon ac atyniadau amheus, dyma gyfle gwych i blant gyfarfod â’i gilydd, a mwynhau hwyl a sbri mewn awyrgylch ddiogel a Christnogol.

Sunday 7 September 2008

Lansiad

Dewch i Lansiad Clwb Hwyl Hwyr
Croeso Cynnes i Bawb