Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Tuesday 31 March 2009

FUNTASIA

Ar ddiwedd mis Mawrth i gloi gwerthgareddau'r tymor cafodd aelodau Clwb Hwyl Hwyr Rhydaman barti mawr yn lle chwarae Funtasia yng Nghapel Hendre. Fe ddaeth bron i 20 o aelodau i’r parti ac fe fuodd y plant yn sglefrio, chwarae a mwynhau pryd o fwyd. Fel y gwelir yn amlwg o’r lluniau fe wnaeth pawb fwynhau yn fawr iawn.

Monday 30 March 2009

LOGO NEWYDD

Mae gan y clwb logo newydd. Pa well ffordd na chael y plant eu hunain i gynllunio'r logo. Felly ar nos Wener 13 Mawrth yn ystod noson grefft yng ngofal Catrin cynlluniwyd y logo gan y plant sydd i'w weld uchod.

Monday 16 March 2009

FUNTASIA

Ydych chi am ddod i Funtasia gyda ni. Os ydych am ddod yna rhowch eich ffurflen i mewn i un o'r Arweinwyr erbyn dydd Gwener 20 Mawrth.

Byddwn yn mynd i Funtasia, Capel Hendre ar 27 mawrth am 5.30 - 7.00pm

Yna yr wythnos ganlynol byddwn yn cau'r clwb am y Pasg ac yn ail agor wedi'r gwyliau.

hwyl
Edwyn

Friday 6 March 2009

BANANA SPLIT MASNACH DEG



Nos Wener 6ed Mawrth aeth aelodau Clwb hwyl hwyr i'r Arcade yn Rhydaman i gymryd rhan yn y Banana Split Enfawr.

Ymgais i greu record byd o ran bwyta bananas masnach deg oedd hon.

Yn gyntaf roedd yn rhaid adeiladu'r banana split drwy dorri bananas, wedyn rhoi'r hufen ia ar eu pennau. Yna ychwanegu'r hufen ac yn olaf y saws mefus a siocled. Roedd y canlyniad yn gampwaith ac yn wir cadw at y term Banana Split Enfawr.


Braf oedd gweld cymaint yno, yn blant, ieuenctid ac oedolion.
Roedd y gweithgaredd hwn wedi ei drefnu gan glybiau ieuenctid capeli ac eglwysi'r dref, ond yn agored i bawb. Roedd y banana split yn barod i'w bwyta am 6.00 a cafodd pawb hwyl arbennig yn llanw eu boliau.
Pa well ffordd o godi ymwybyddiaeth Masnach Deg sy'n ceisio sicrhau bywolaieth deilwng i gynhyrchwyr y trydydd byd, a chael hwyl arbennig yr un pryd.

Tuesday 3 March 2009

BANANA SPLIT ENFAWR

Nos Wener 6 Mawrth 2009 bydd aelodau ac arweinwyr Clwb Hwyl Hwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd Banana Split Enfawr i ddathlu Wythnos Masnach Deg yn Rhydaman.
Byddwn yn ymgynull yn yr Arcade am 6.00 pan fydd Banana Split Enfawr yn cael ei greu ac yna yn well fyth yn cael ei fwyta.
Rhan o gynnig Sefydliad Masnach Deg i greu record byd am fwyta'r nifer mwyaf o fananas masnach deg mewn 24 awr yw hwn. (o hanner dydd Gwener y 6ed i hanner dydd Sadwrn y 7ed).

Mae'r Banana Split yn cael ei drefnu gan glybiau ieuenctid Capeli Rhydaman, ond yna gored i bawb. Dewch i'r Arcade am 6.00 gyda llwy!