Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Tuesday 15 December 2009

TYMOR Y GWANWYN

Mae'r clwb wedi gorffen am y tymor. Byddwn yn ail ddechrau ar Nos Wener 8 Ionawr 2010 yn Neuadd Gellimanwydd am 5.30.
Croeso cynnes i bawb.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA
I HOLL AELODAU A FFRINDIAU
CLWB HWYL HWYR

Thursday 10 December 2009

PARTI NADOLIG

Mae Parti Nadolig Clwb Hwyl Hwyr ar Nos Wener, 11 Rhagfyr yn Neuadd Gellimanwydd.
Bydd pawb yn cael hwyl arbennig drwy chwarae gemau, prynu anrhegion (bydd pob plentyn yn cael gwerth 40 pwynt i wario ar wahanol bethau) a bwyd blasus.
Felly cofiwch ddod draw i ymuno yn y dathlu.

Tuesday 1 December 2009

Cwis Beiblaidd

Ym mis Medi eleni ffurfiwyd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) mewn ymateb i ddymuniad gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin am gefnogaeth i ddatblygu gwaith ymhlith plant ac ieuenctid. Prif nod y Fenter newydd yw hybu tystiolaeth yr efengyl ymysg yr ifanc a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes.

Yn ddiweddar, trefnwyd cwis Beiblaidd ar gyfer plant ac ieuenctid sir Gaerfyrddin gyda rowndiau rhagbrofol yn arwain fyny at rownd derfynol. Mewn cyfnod pan fod gwybodaeth Feiblaidd yn rhinwedd prin yn ein cymdeithas, mor wych oedd hi i weld plant a phobl ifanc ar draws yr ystod oedran o 6 i 17 oed yn cymryd rhan gyda brwdfrydedd. Defnyddiwyd yr offer diweddara gan gynnwys PowerPoint, bysyrs electronig a meicroffonau gan roi delwedd broffesiynol a chyfoes i’r achlysur.

Yn y rownd derfynol trefnwyd y cwis ar ffurf y rhaglen deledu boblogaidd, “Who Wants To Be A Millionaire?” Cafwyd cystadleuaeth ddifyr a hynod o gyffrous, heb sôn am y tensiwn, wrth i rai timoedd gyrraedd lefel uchel ac wrth i’r ffôn symudol gael ei ddefnyddio i ymgynghori gyda nifer i ffrind.

Y Rownd Derfynol
Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed cynradd oedd:
Providence, Llangadog (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Plant Y Brenin, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Ysgol Sul Hermon (Gorllewin sir Gâr)

Yn cymryd rhan yn y rownd derfynol oed uwchradd oedd:
Calfaria, Penygroes (Dwyrain sir Gâr)
Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman (Dwyrain sir Gâr)
Penuel, Caerfyrddin (Gorllewin sir Gâr)
Y Babell, Pensarn (Gorllewin sir Gâr)

Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant a’r bobl ifanc wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw. Daeth Tîm Uwchradd Clwb hwyl hwyr yn ail yn y rownd derfynol.

Tuesday 20 October 2009

TYMOR NADOLIG

Mae'r Clwb yn mynd o nerth i nerth gyda aelodau newydd a llawer o rhai flwyddyn diwethaf wedi ail ymuno. Mae gennym Swyddogion, sef disgyblion Blwyddyn 7 yr Ysgol uwchradd sy'n ein cynorthwyo gyda'r gemau.
Dewch draw i ymuno yn yr hwyl a'r sbri.

Wednesday 16 September 2009


TYMOR NEWYDD YN DECHRAU

Bydd Clwb Hwyl Hwyr yn ail ddechrau wedi seibiant dros yr haf ar Nos Wener 25 Medi yn Neuadd Gellimanwydd am 5.30

Croeso Cynnes i Bawb.

Tuesday 25 August 2009

Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gâr)

Mae Clwb Hwyl Hwyr wedi ymaelodi a MIC, sef :-

Menter newydd sy’n darparu ar gyfer plant ac ieuenctid wedi eu sefydlu gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin. O fis Medi ymlaen bydd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) yn trefnu gweithgareddau ac yn darparu adnoddau a chefnogaeth i eglwysi yn eu cenhadaeth ymhlith plant a phobl ifanc. Y person sydd wedi ei benodi i arwain y gwaith yw Mr Nigel Davies.

Bu Nigel yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol ym Mhorth Tywyn am 5 mlynedd cyn iddo symud i weithio gyda Chyngor Ysgolion Sul Cymru, a chofiwn ei waith arbennig yno am 17 mlynedd. Am y tair blynedd diwethaf bu’n swyddog plant/ieuenctid gyda Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Bu’n fawr ei barch gyda’r Fenter ac mae wedi ymdrechu, gyda llwyddiant clodwiw, i godi proffil yr Ysgol Sul, ac wedi llafurio yn ddi-baid i rannu’r Newyddion Da mewn amrywiol ffyrdd ymhlith plant ac ieuenctid. Y mae rhestr yr hyn a gyflawnwyd yn rhy fawr i`w cynnwys yma ond wrth i’r gwaith ymestyn ar draws sir Gaerfyrddin bydd cyfle i bob eglwys ac enwad elwa o’r hyn fydd gan M.I.C. i’w gynnig.

Prif nod M.I.C. bydd hybu gwaith a thystiolaeth yr efengyl ymhlith plant ac ieuenctid y sir a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes. Bydd amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a chyffro yn cael eu trefnu gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol fel cystadlaethau pêl droed, pêl rwyd a mabolgampau yn ogystal â digwyddiadau fel Bwrlwm Bro, gwersylloedd ac oedfaon cyfoes fydd yn cymell yr ifanc i ystyried galwad Duw ar eu bywyd. Bydd y Fenter yn ymdrechu i gyfleu i’r ifanc y gred bod Cristnogaeth yn ymwneud a phob agwedd o fywyd ac nid yn unig mynychu oedfaon ar y Sul.
Mae gwahoddiad agored i gapel / eglwys o unrhyw enwad o fewn sir Gaerfyrddin i berthyn i’r Fenter. Bydd yr eglwysi hynny sy’n cofrestru yn cael gwybodaeth gyson am bob digwyddiad fydd yn cael ei drefnu a byddant yn medru elwa o gefnogaeth bersonol yn eu sefyllfa leol. Mewn amgylchiadau ble mae yna eglwysi heb blant nac ieuenctid, mae gwahoddiad iddynt ymuno â M.I.C. fel aelodau cyswllt. Byddant yn derbyn Llythyr Newyddion / Gweddi tair gwaith y flwyddyn yn cynnwys lluniau a chrynodeb o’r hyn sydd wedi cymryd lle a manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod gyda chyfle i weddïo dros y gweithgareddau hynny.

Mae pwyllgor llywio cydenwadol wedi ei ffurfio i gefnogi’r gwaith. Y cadeirydd yw Y Parchg Tom Defis (Cymorth Cristnogol) a’r ysgrifennydd yw Y Parchg Eurof Richards (Pont-henri). Mewn dyddiau pan fod Cristnogaeth ar drai yn ein gwlad a nifer yr ieuenctid sy’n mynychu capel ac eglwys yn brin, dyma gyfle delfrydol i eglwysi i ymateb i’r her sy’n eu hwynebu trwy fuddsoddi mewn cenhadaeth gartref. Mae M.I.C. yn bodoli er lles plant ac ieuenctid sir Gâr ac i gydweithio gyda’r eglwysi er mwyn i bobl ifanc yr oes hon gael y cyfle i glywed ac i ymateb i wahoddiad efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

Saturday 13 June 2009

TYMOR Y CLWB

Mae'r Clwb wedi gorffen am yr haf a byddwn yn ail ddechrau yn Mis Medi.
.
Mae arweinyddion a swyddogion Clwb Hwyl Hwyr yn dymuno'n dda i bawb dros cyfnod gwyliau'r haf ac yn edrych ymlaen i'ch gweld unwaith eto yn Medi.

Monday 25 May 2009

BARBECIW

Mae blwyddyn gyntaf Clwb Hwyl Hwyr, sef menter ieuenctid capeli Cymraeg Rhydaman, wedi bod yn lwyddiant ysgubol.
I orffen y tymor cawsom farbeciw yn Neuadd Gellimanwydd. Roedd criw da iawn wedi troi i fyny ar gyfer ein noson olaf.
Dechreuwyd drwy chwarae ychydig o beldroed. Yna dosbarthwyd arian ffug i bawb er wmyn iddynt ddewis eu anrheg am fod yn aelod o'r clwb. Roedd pawb yn cael gwerth 25 pwynt yt un. Roedd amrywiaeth o ddewisiadau ar gael , gan gynnwys digon o losin.
Graham Daniels oed dyn gyfrifol am y barbeciw - cawsom byrger, sosej, kebab a digon o sos coch. Yn bwdin roedd dewis o wahanol gateaux a hufen neu hufen ia.
Wedi hyn manteisiodd llawer ar y cyfle i dostio marshmallows - diolch i Manon Daniels am oruchwylio hyn.
Bydd blwyddyn newydd y Clwb yn ail ddechrau ym mis Medi.

Saturday 16 May 2009

NOSON RUTH

Ruth oedd testun y stori yng Nghlwb Hwyl Hwyr nos Wener 15 Mai. Roedd criw da wedi dod i'r neuadd ar gyfer y noson.

Edwyn oedd yr arweinydd. Cawsom hanes Ruth fel stori'r noson. Yna gan barhau a'r thema o gasglu grawn ar gyfer bwyd rhanwyd pawb i ddau dim ar gyfer gem gwneud brechdan. Un o'r gemau oedd gwneud a bwyta brechdan Jam neu Nutella a'i bwyta.

Roedd angen i bob aelod o'r tim redeg at y bwrdd, gwneud brechdan a'i bwtya cyn i'r aelod nesaf gael rhedeg i wneud un arall.
Bydd y clwb yn gorffen wythnos nesaf gyda Barbeciw tu allan i Neuadd Gellimanwydd.



Tuesday 14 April 2009

CHWARAEON


Ar Ebrill 8fed yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman cynhaliwyd cystadlaethau chwaraeon pêl droed a phêl rwyd Menter Cyd-enwadol Gogledd Myrddin.
Roedd aelodau'r Clwb yn cystadlu a braf yw cael dweud y cawsom gryn lwyddiant. Gwnaeth timau peldroed cynradd ac Uwchradd a timau pelrwyd gystadlu yn frwd iawn. Daeth tim Pelrwyd Cynradd Clwb Hwyl Hwyr (A) yn fuddugol. Yn ogystal roedd aelodau o'r Clwb yn rhan o dim Peldroed Uwchradd Egwlysi Cylch Aman a ddaeth yn ail i Saron yn y rownd derfynol.

Roedd y Ganolfan yn fwrlwm o weithgaredd trwy'r dydd ac unwaith eto braf yw gweld cymaint o'n hieuenctid yn cael hwyl aruthrol mewn awyrgylch saff a christnogol.

Saturday 4 April 2009

CHWARAEON - YMARFER

Nos Wener, 3 Ebrill aeth aelodau Clwb Hwyl Hwyr i Ganolfan Chwaraeon Rhydaman i ymarfer ar gyfer y cystadleuathau chwaraeon sydd i'w cynnal wythnos nesaf. Manon Daniels oedd yn hyfforddi y tim pel-rwyd a trystan Daniels y tim peldroed. Mae Trystan a Manon ymhlith yr ieuenctid sydd yn cynorthwyo'r arweinyddion yn y clwb. Mae Menter Cyd-enwadol Ggledd Myrddin yn cynnal cystadleuthau peldroed a phel-rwyd dydd Mercher 8 Ebrill yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman. Bydd gan Clwb Hwyl hwyr dimau yn cystadlu yn y ddau - peldroed a pel rwyd. Felly aethom i ymarfer yn y cyrtiau allanol yn y Ganolfan.

Roedd pawb wedi mwynhau ac yn edrych ymlaen ar gyfer y cystadlu dydd Mercher.

Tuesday 31 March 2009

FUNTASIA

Ar ddiwedd mis Mawrth i gloi gwerthgareddau'r tymor cafodd aelodau Clwb Hwyl Hwyr Rhydaman barti mawr yn lle chwarae Funtasia yng Nghapel Hendre. Fe ddaeth bron i 20 o aelodau i’r parti ac fe fuodd y plant yn sglefrio, chwarae a mwynhau pryd o fwyd. Fel y gwelir yn amlwg o’r lluniau fe wnaeth pawb fwynhau yn fawr iawn.

Monday 30 March 2009

LOGO NEWYDD

Mae gan y clwb logo newydd. Pa well ffordd na chael y plant eu hunain i gynllunio'r logo. Felly ar nos Wener 13 Mawrth yn ystod noson grefft yng ngofal Catrin cynlluniwyd y logo gan y plant sydd i'w weld uchod.

Monday 16 March 2009

FUNTASIA

Ydych chi am ddod i Funtasia gyda ni. Os ydych am ddod yna rhowch eich ffurflen i mewn i un o'r Arweinwyr erbyn dydd Gwener 20 Mawrth.

Byddwn yn mynd i Funtasia, Capel Hendre ar 27 mawrth am 5.30 - 7.00pm

Yna yr wythnos ganlynol byddwn yn cau'r clwb am y Pasg ac yn ail agor wedi'r gwyliau.

hwyl
Edwyn

Friday 6 March 2009

BANANA SPLIT MASNACH DEG



Nos Wener 6ed Mawrth aeth aelodau Clwb hwyl hwyr i'r Arcade yn Rhydaman i gymryd rhan yn y Banana Split Enfawr.

Ymgais i greu record byd o ran bwyta bananas masnach deg oedd hon.

Yn gyntaf roedd yn rhaid adeiladu'r banana split drwy dorri bananas, wedyn rhoi'r hufen ia ar eu pennau. Yna ychwanegu'r hufen ac yn olaf y saws mefus a siocled. Roedd y canlyniad yn gampwaith ac yn wir cadw at y term Banana Split Enfawr.


Braf oedd gweld cymaint yno, yn blant, ieuenctid ac oedolion.
Roedd y gweithgaredd hwn wedi ei drefnu gan glybiau ieuenctid capeli ac eglwysi'r dref, ond yn agored i bawb. Roedd y banana split yn barod i'w bwyta am 6.00 a cafodd pawb hwyl arbennig yn llanw eu boliau.
Pa well ffordd o godi ymwybyddiaeth Masnach Deg sy'n ceisio sicrhau bywolaieth deilwng i gynhyrchwyr y trydydd byd, a chael hwyl arbennig yr un pryd.

Tuesday 3 March 2009

BANANA SPLIT ENFAWR

Nos Wener 6 Mawrth 2009 bydd aelodau ac arweinwyr Clwb Hwyl Hwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd Banana Split Enfawr i ddathlu Wythnos Masnach Deg yn Rhydaman.
Byddwn yn ymgynull yn yr Arcade am 6.00 pan fydd Banana Split Enfawr yn cael ei greu ac yna yn well fyth yn cael ei fwyta.
Rhan o gynnig Sefydliad Masnach Deg i greu record byd am fwyta'r nifer mwyaf o fananas masnach deg mewn 24 awr yw hwn. (o hanner dydd Gwener y 6ed i hanner dydd Sadwrn y 7ed).

Mae'r Banana Split yn cael ei drefnu gan glybiau ieuenctid Capeli Rhydaman, ond yna gored i bawb. Dewch i'r Arcade am 6.00 gyda llwy!

Sunday 22 February 2009

Rhaglen Tymor y Pasg

Dyddiad, Stori, Arweinydd
27/2/09 Atgyfodiad Lasarus, Graham

6/3/09 Wythnos Masnach Deg - Banana Split enfawr yn yr Arcade

13/3/09 Crefft, Catrin
.
20/3/09 Pedr Yn Gwadu, Dyfrig

27/3/09 Parti’r Clwb yn Funtasia, Pawb

3/4/09 Y Croesholiad/ Atgyfodiad, Edwyn

Friday 16 January 2009

TYMOR Y GWANWYN 2009

Mae'r tymor newydd wedi dechrau. Ar nos Wener 5 Ionawr Y Parchg Emyr Gwyn Evans oedd yn agor gweithgareddau'r tymor.
Mae rhaglen arbennig wedi ei threfnu ar ein cyfer, gan gynnwys trip i orffen y tymor i sglefrio yng Nghapel Hendre.

Dyma restr o'r dyddiadau ;

Dyddiad Prif Sesiwn Arweinydd

9/1/09 Porthi`r 5000, Emyr

16/1/09 Sacheus, Catrin

23/1/09 Y Barnwr a`r Weddw, Graham


30/1/09 Y Mab Colledig, Dyfrig

6/2/09 Crefft, Edwyn

13/2/09 Iachau Merch Jairus, Emyr

20/2/09 Hanner Tymor

PARTI NADOLIG

Ar ddiwedd tymor cyntaf Clwb Hwyl Hwyr cawsom barti Nadolig bel cafodd y plant gyfle i ddewis eu anrhegion eu hunain. Roedd pawb yn gallu cerdded o amgylch y byrddau adewis pa anrehgion oedd yn eu plesio. Wedi hyn cawsom gemau ac yna i orffen pop a chrisps.
Mae pawb yn edrych ymlaen at tymor nesaf yn barod.