Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Sunday, 11 July 2010

TYMOR NEWYDD

Mae'r tymor wedi dod i ben a byddwn yn ail ddechrau ym Mis Medi.
Edrych ymlaen i'ch gweld adeg hynny.

hwyl a joiwch yr haf.

Monday, 19 April 2010

CHWARAEON MENTER IEUENCTID CRISTNOGOL

Llongyfarchiadau i aelodau Clwb hwyl hwyr ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuthau Chwaraeon Menter Ieuenctid Cristonogol Sir Gar.
Daeth y tim Pelrwyd cyrnadd yn gyntaf a hefyd y tim Pelrwys Uwchradd.

da iawn chi .

Bu gwyliau’r Pasg yn gyfnod prysur i nifer o blant ac ieuenctid Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol Sir Gaerfyrddin wrth iddynt gymryd rhan mewn cystadlaethau pêl droed a phêl rwyd o dan drefniant M.I.C. Cynhaliwyd y cystadlaethau yn rhanbarthol yng Nghastell Newydd Emlyn a Rhydaman gyda’r rowndiau terfynol yn cymryd lle yng Nghaerfyrddin.

Rhannwyd y timoedd i grwpiau gan sicrhau bod pob tîm yn cael chwarae o leiaf dwy gêm yr un. Daeth tyrfaoedd da i gefnogi’r fenter a chafwyd cystadlu brwd ymysg y timoedd gyda phawb yn rhoi o’u gorau. Gwych oedd gweld y cyffro a’r llawenydd ar wynebau’r chwaraewyr a’u cefnogwyr wrth i bawb fwynhau “mas draw.” Diwrnodau penigamp felly i bawb, ac i’r sawl wnaeth ennill, wel roedd hynny yn fonws.


Roedd y canlyniadau fel a ganlyn:
Rowndiau Terfynol Y Sir - Yn y rowndiau terfynol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin dyma oedd y canlyniadau:


Pêl Rwyd Cynradd: 1af – Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman.


Pêl Rwyd Uwchradd: 1af – Clwb Hwyl Hwyr, Rhydaman.


Llongyfarchiadau mawr i'r timoedd uchod ac i bawb wnaeth gymryd rhan a chyfrannu tuag at dri diwrnod llwyddiannus iawn i Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol sir Gaerfyrddin.

Saturday, 3 April 2010

DIWEDD TYMOR

Mae blwyddyn arall yn hanes y Clwb newydd ddod i ben.
Byddwn yn ail ddechrau yn y flwyddyn addysgol newydd, sef Mis Medi.
Hoffai Swyddogion Clwb Hwyl Hwyr ddymuno'n dda i'r holl aelodau dros yr haf ac edrychwn ymlaen i'ch gweld eto Mis Medi.

hwyl
Edwyn a'r criw

Monday, 8 March 2010

PYTHEFNOS MASNACH DEG

Roedd aelodau'r clwb yn cymryd rhan y y Banana Split enfawr yn yr Arcade, Rhydaman ar Nos Wener 5 Mawrth. Rhan o ddigwyddiadau Pythefnos Masnach Deg oedd hon. Dyma'r ail waith i ni adeiladu Banana Split enfawr ar hyd yr arcade ac roedd un eleni yr un mor fawr a llynedd.
Yn gyntaf roedd angen torri'r bananas a'u gosod ar y cafn, wedyn ychwanegu'r hufen ia, yr hufen a'r saws siocled - wedi hyn roedd pawb yn gafael mewn llwy a bwyta!!
Pa well ffordd i ddathlu Pythefnos Masnach Deg ac ar yr un pryd codi ymwybyddiaeth am nwyddau sy'n rhoi cyfle teilwng i'r ffermwyr a'r masnachwyr.


Monday, 18 January 2010

TYMOR Y GWANWYN

Mae'r Clwb wedi ail ddechrau ar ol y tywydd garw.


Dewch draw i neuadd Gellimawydd ar Nos Wener am 5.30 i gael hwyl.

Tuesday, 15 December 2009

TYMOR Y GWANWYN

Mae'r clwb wedi gorffen am y tymor. Byddwn yn ail ddechrau ar Nos Wener 8 Ionawr 2010 yn Neuadd Gellimanwydd am 5.30.
Croeso cynnes i bawb.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA
I HOLL AELODAU A FFRINDIAU
CLWB HWYL HWYR