Welcome to Clwb Hwyl Hwyr 's website which is a Christian Club full of fun and activities for pupils from Years 3 – 6. We meet weekly during term times on a Friday night at Christian Temple Hall, Ammanford between 5.30 –and 6.30.
Croeso i wefan “Clwb Hwyl Hwyr”, sef clwb Cristnogol llawn hwyl ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6. Rydym yn cyfarfod yn wythnosol ar Nos Wener yn ystod tymhorau’r ysgol yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman rhwng 5.30 a 6.30pm.

Tuesday, 20 October 2009

TYMOR NADOLIG

Mae'r Clwb yn mynd o nerth i nerth gyda aelodau newydd a llawer o rhai flwyddyn diwethaf wedi ail ymuno. Mae gennym Swyddogion, sef disgyblion Blwyddyn 7 yr Ysgol uwchradd sy'n ein cynorthwyo gyda'r gemau.
Dewch draw i ymuno yn yr hwyl a'r sbri.

Wednesday, 16 September 2009


TYMOR NEWYDD YN DECHRAU

Bydd Clwb Hwyl Hwyr yn ail ddechrau wedi seibiant dros yr haf ar Nos Wener 25 Medi yn Neuadd Gellimanwydd am 5.30

Croeso Cynnes i Bawb.

Tuesday, 25 August 2009

Menter Ieuenctid Cristnogol (Sir Gâr)

Mae Clwb Hwyl Hwyr wedi ymaelodi a MIC, sef :-

Menter newydd sy’n darparu ar gyfer plant ac ieuenctid wedi eu sefydlu gan eglwysi anghydffurfiol sir Gaerfyrddin. O fis Medi ymlaen bydd Menter Ieuenctid Cristnogol (M.I.C.) yn trefnu gweithgareddau ac yn darparu adnoddau a chefnogaeth i eglwysi yn eu cenhadaeth ymhlith plant a phobl ifanc. Y person sydd wedi ei benodi i arwain y gwaith yw Mr Nigel Davies.

Bu Nigel yn Bennaeth Adran Addysg Grefyddol ym Mhorth Tywyn am 5 mlynedd cyn iddo symud i weithio gyda Chyngor Ysgolion Sul Cymru, a chofiwn ei waith arbennig yno am 17 mlynedd. Am y tair blynedd diwethaf bu’n swyddog plant/ieuenctid gyda Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Bu’n fawr ei barch gyda’r Fenter ac mae wedi ymdrechu, gyda llwyddiant clodwiw, i godi proffil yr Ysgol Sul, ac wedi llafurio yn ddi-baid i rannu’r Newyddion Da mewn amrywiol ffyrdd ymhlith plant ac ieuenctid. Y mae rhestr yr hyn a gyflawnwyd yn rhy fawr i`w cynnwys yma ond wrth i’r gwaith ymestyn ar draws sir Gaerfyrddin bydd cyfle i bob eglwys ac enwad elwa o’r hyn fydd gan M.I.C. i’w gynnig.

Prif nod M.I.C. bydd hybu gwaith a thystiolaeth yr efengyl ymhlith plant ac ieuenctid y sir a hynny mewn ffyrdd cyfoes a pherthnasol ar gyfer ein hoes. Bydd amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a chyffro yn cael eu trefnu gan gynnwys digwyddiadau cymdeithasol fel cystadlaethau pêl droed, pêl rwyd a mabolgampau yn ogystal â digwyddiadau fel Bwrlwm Bro, gwersylloedd ac oedfaon cyfoes fydd yn cymell yr ifanc i ystyried galwad Duw ar eu bywyd. Bydd y Fenter yn ymdrechu i gyfleu i’r ifanc y gred bod Cristnogaeth yn ymwneud a phob agwedd o fywyd ac nid yn unig mynychu oedfaon ar y Sul.
Mae gwahoddiad agored i gapel / eglwys o unrhyw enwad o fewn sir Gaerfyrddin i berthyn i’r Fenter. Bydd yr eglwysi hynny sy’n cofrestru yn cael gwybodaeth gyson am bob digwyddiad fydd yn cael ei drefnu a byddant yn medru elwa o gefnogaeth bersonol yn eu sefyllfa leol. Mewn amgylchiadau ble mae yna eglwysi heb blant nac ieuenctid, mae gwahoddiad iddynt ymuno â M.I.C. fel aelodau cyswllt. Byddant yn derbyn Llythyr Newyddion / Gweddi tair gwaith y flwyddyn yn cynnwys lluniau a chrynodeb o’r hyn sydd wedi cymryd lle a manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod gyda chyfle i weddïo dros y gweithgareddau hynny.

Mae pwyllgor llywio cydenwadol wedi ei ffurfio i gefnogi’r gwaith. Y cadeirydd yw Y Parchg Tom Defis (Cymorth Cristnogol) a’r ysgrifennydd yw Y Parchg Eurof Richards (Pont-henri). Mewn dyddiau pan fod Cristnogaeth ar drai yn ein gwlad a nifer yr ieuenctid sy’n mynychu capel ac eglwys yn brin, dyma gyfle delfrydol i eglwysi i ymateb i’r her sy’n eu hwynebu trwy fuddsoddi mewn cenhadaeth gartref. Mae M.I.C. yn bodoli er lles plant ac ieuenctid sir Gâr ac i gydweithio gyda’r eglwysi er mwyn i bobl ifanc yr oes hon gael y cyfle i glywed ac i ymateb i wahoddiad efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

Saturday, 13 June 2009

TYMOR Y CLWB

Mae'r Clwb wedi gorffen am yr haf a byddwn yn ail ddechrau yn Mis Medi.
.
Mae arweinyddion a swyddogion Clwb Hwyl Hwyr yn dymuno'n dda i bawb dros cyfnod gwyliau'r haf ac yn edrych ymlaen i'ch gweld unwaith eto yn Medi.

Monday, 25 May 2009

BARBECIW

Mae blwyddyn gyntaf Clwb Hwyl Hwyr, sef menter ieuenctid capeli Cymraeg Rhydaman, wedi bod yn lwyddiant ysgubol.
I orffen y tymor cawsom farbeciw yn Neuadd Gellimanwydd. Roedd criw da iawn wedi troi i fyny ar gyfer ein noson olaf.
Dechreuwyd drwy chwarae ychydig o beldroed. Yna dosbarthwyd arian ffug i bawb er wmyn iddynt ddewis eu anrheg am fod yn aelod o'r clwb. Roedd pawb yn cael gwerth 25 pwynt yt un. Roedd amrywiaeth o ddewisiadau ar gael , gan gynnwys digon o losin.
Graham Daniels oed dyn gyfrifol am y barbeciw - cawsom byrger, sosej, kebab a digon o sos coch. Yn bwdin roedd dewis o wahanol gateaux a hufen neu hufen ia.
Wedi hyn manteisiodd llawer ar y cyfle i dostio marshmallows - diolch i Manon Daniels am oruchwylio hyn.
Bydd blwyddyn newydd y Clwb yn ail ddechrau ym mis Medi.

Saturday, 16 May 2009

NOSON RUTH

Ruth oedd testun y stori yng Nghlwb Hwyl Hwyr nos Wener 15 Mai. Roedd criw da wedi dod i'r neuadd ar gyfer y noson.

Edwyn oedd yr arweinydd. Cawsom hanes Ruth fel stori'r noson. Yna gan barhau a'r thema o gasglu grawn ar gyfer bwyd rhanwyd pawb i ddau dim ar gyfer gem gwneud brechdan. Un o'r gemau oedd gwneud a bwyta brechdan Jam neu Nutella a'i bwyta.

Roedd angen i bob aelod o'r tim redeg at y bwrdd, gwneud brechdan a'i bwtya cyn i'r aelod nesaf gael rhedeg i wneud un arall.
Bydd y clwb yn gorffen wythnos nesaf gyda Barbeciw tu allan i Neuadd Gellimanwydd.