Ar Ebrill 8fed yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman cynhaliwyd cystadlaethau chwaraeon pĂȘl droed a phĂȘl rwyd Menter Cyd-enwadol Gogledd Myrddin.
Roedd aelodau'r Clwb yn cystadlu a braf yw cael dweud y cawsom gryn lwyddiant. Gwnaeth timau peldroed cynradd ac Uwchradd a timau pelrwyd gystadlu yn frwd iawn. Daeth tim Pelrwyd Cynradd Clwb Hwyl Hwyr (A) yn fuddugol. Yn ogystal roedd aelodau o'r Clwb yn rhan o dim Peldroed Uwchradd Egwlysi Cylch Aman a ddaeth yn ail i Saron yn y rownd derfynol.
Roedd y Ganolfan yn fwrlwm o weithgaredd trwy'r dydd ac unwaith eto braf yw gweld cymaint o'n hieuenctid yn cael hwyl aruthrol mewn awyrgylch saff a christnogol.